Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Teams
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Mehefin 2020
Amser:
10.00 -
10.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6383
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Andrew RT Davies AS David J Rowlands AS |
Tystion: |
Douglas Bain, Comisiynydd Dros Dro Safonau |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
- Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
- Roedd y Cadeirydd yn dymuno mynegi cydymdeimlad dwys y Pwyllgor â theulu a ffrindiau Mohammad Asghar.
2 Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Safonau 2019-20
- Croesawodd y Cadeirydd Douglas Bain, y Comisiynydd Safonau Dros Dro, a'i wahodd i gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol Safonau ar gyfer 2019/20.
- Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach, ar 22 Mehefin 2020.
3 Adrodd Deuol
- Trafododd y Pwyllgor ei adolygiad o ofynion adrodd yn ymwneud â rhoddion o dan y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda.
- Cytunodd y Pwyllgor, oherwydd cyfyngiadau amser yn sgil y pandemig Covid-19, na fyddai’n bwrw ymlaen â’r gwaith hwn ar unrhyw ffurf ar hyn o bryd.
- Cytunodd y Pwyllgor y dylid cynnwys y gwaith hwn yn yr adroddiad etifeddiaeth ar gyfer pwyllgor y Chweched Senedd sy’n gyfrifol am safonau.